<<SCROLL FOR ENGLISH>>
30/09/20
Annwyl Gwsmer
Efallai eich bod chi wedi clywed am benderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i gau eu cyfleusterau chwaraeon a nofio. Mae hynny yn ‘mesur rhagofalus’. Darllenwch fwy fan hyn.
Gan mai mudiad preifat, annibynnol yw Calon Tysul, nid ydyn ni’n rhan o’r penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion a phenderfyniad ein pwyllgor o ymddiriedolwyr ydy aros ar agor neu beidio.
Cafwyd cyfarfod brys neithiwr ac, o ganlyniad, mae’r pwyllgor wedi penderfynu cadw ein canolfan ar agor am y tro.
Rydyn ni’n monitro’r sefyllfa yn ddyddiol ac mae’n bosib bydd rhaid i ni ail-asesu os yw’n ddiogel i’n staff a chwsmeriaid aros ar agor yn y dyfodol agos.
Rydyn ni hefyd yn wrthi’n adolygu ein mesuriadau atal Covid-19 sydd eisoes yn gweithredu, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gweithredu yn y ffordd fwyaf ddiogel posib. Byddem yn cysylltu â chi os oes newid i’n trefniadau presennol.
Gofynnir yn garedig i chi sicrhau eich bod chi’n parhau i gydymffurfio gyda’n rheolau pob tro os gwelwch yn dda....
Yn bennaf;
Mae croeso i chi gysylltu gyda finnau os oes gennych gwestiwn a byddaf yn hapus i’ch helpu.
Diolch o galon am eich cefnogaeth barhaol.
Matt, ar ran Ymddiriedolwyr Calon Tysul
=-=-=-=-=-=-=
Dear Customer
You may have heard of Ceredigion County Council's decision to close their sports and swimming facilities. This is a 'precautionary measure'. Read more here.
As Calon Tysul is a private, independent organisation, we are not part of Ceredigion County Council’s decision and our committee of trustees is to decide whether the centre remains open or not.
An emergency meeting took place last night and, as a result, the committee has decided to keep our centre open for the time being.
We will monitor the situation on a daily basis and may need to reassess whether it is safe for our staff and customers to remain open in the near future.
We are also currently reviewing our existing Covid-19 preventative measures, to ensure we are operating in the safest way possible. We will contact you if there is a change to our existing arrangements.
Please continue to ensure that you comply with our rules at all times….
Primarily;
Feel free to contact me if you have any questions and I'll be happy to help.
Many thanks for your continued support.
Matt, on behalf of the Trustees of Calon Tysul